Tynnu'n ôl neu Ganslo - Cwestiynau Cyffredin
Efallai y bydd gennych gwestiynau ynghylch Tynnu'n ôl neu Ganslo. Dyma ddetholiad o gwestiynau cyffredin ac atebion i'ch helpu. Cliciwch ar gwestiwn i weld yr ateb.
Beth yw'r broses ar gyfer Tynnu cais yn ôl?
Gallwch ofyn am i'ch achos gael ei dynnu'n ôl trwy gysylltu â'r Adran Waith a Phensiynau neu ganolfan ymholiadau Capita. Gallwch hefyd roi gwybod i ni trwy e-bost.
Beth yw'r broses ar gyfer newid apwyntiad?
Cysylltwch â chanolfan ymholiadau Capita ar 0808 1788 115 i drafod y posibilrwydd o ad-drefnu eich apwyntiad. Dim ond unwaith y cewch ganslo eich apwyntiad.